Pennill 1
Iôr, rwy’n dod, cyffesaf i
a phlygu yn d’orffwystra Di
Hebot Ti, rwyf i ar chwâl
Ti yw bugail fy nghalon wan
Corws 1
Iôr, mae D’eisiau, O mae D’eisiau
Bob awr mae arnaf D’eisiau
F’amddiffyn triw, ‘nghyfiawnder gwiw
O Dduw, mae Dy eisiau
Pennill 2
Mae’th ras yn fwy na ‘mhechod i
A lle mae gras, fe fyddi Di
A lle rwyt Ti, rwyf innau’n rhydd
Sancteiddrwydd yw Crist ynof fi
Corws 1
Pont (X2)
O boed i ‘nghân gael codi fry
Pan ddaw temtiad i fy rhan
A phan rwy’n llithro, pwysaf arnat Ti
Iesu, ‘ngobaith i a’m nerth
Corws 2 (X2)
Iôr, mae D’eisiau, O mae D’eisiau
Bob awr mae arnaf D’eisiau
F’amddiffyn triw, ‘nghyfiawnder gwiw
O Dduw, mae Dy eisiau
F’amddiffyn triw, ‘nghyfiawnder gwiw
O Dduw, rwyf Dy eisiau
Iôr, mae D’eisiau
Lord, I Need You (Christy Nockels, Daniel Carson, Jesse Reeves, Kristian Stanfill a Matt Maher)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2011 sixsteps Music; Sweater Weather Music; worshiptogether.com songs; Thankyou Music Ltd; Valley Of Songs Music (Gwein. Capitol CMG Publishing, Integrity Music Ltd)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint