logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

I’w liniau cwympodd Brenin nef

I’w liniau cwympodd Brenin nef
Tra’n dioddef gofid mawr,
Goleuni’r byd yn chwysu gwaed
Yn ddafnau ar y llawr.
Pa erchyllterau welodd Ef
Yn unig yn yr ardd:
‘O cymer Di y cwpan hwn’,
Ond gwnaf d’ewyllys Di
Ond gwnaf d’ewyllys Di.

I wybod byddai ffrindiau’n ffoi
A’r nef yn dawel iawn,
Yng Nghalfarî roedd uffern ddu
Am ddial arno’n llawn.
Tu hwnt i eiriau oedd ei loes
Pan drodd ei Dad ei gefn.
Fe dalodd bris ein pechod ni,
Fe’n prynwyd gan ei waed,
Fe’n prynwyd gan ei waed.

Pam gerddodd Ef y llwybr hwn
Arweiniodd at y groes?
Ei gariad dwyfol atom ni
A’n holl eneidiau briw.
Pob trosedd a phob pechod cas
Fel gwenwyn yn ei gwpan,
Fe gymrodd Iesu’r cwbl oll
A’i yfed yn ein lle,
A’i yfed yn ein lle,
A’i yfed yn ein lle.

To see the King of heaven fall (Gethsemane hymn): Keith and Kristyn Getty & Stuart Townend, Cyfieithiad Awdurdodedig: Gwenda Jenkins
© ac yn y cyfieithiad hwn 2008 Thankyou Music/Adm. gan worshiptogether.com songsac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 3, 2015