Pennill 1
Nid oedd yno dawel nos
Roedd ‘na waed ar y llawr
Roedd eu hwylo hithau’n gry’
Yn y strydoedd tywyll du
Yn nhref Dafydd cyn y wawr
Pennill 2
Doedd y stabal ddim yn lân
A phob stryd yn teimlo’n oer
Dyma’r raslon forwyn Fair
Yn ei dagrau yn y gwair
A dim mam i fod wrth law
Corws
Yn yr esgor a’r boen
Ac yng nghanol oerfel nos
Ond, yn y twyllwch, gwyddai hon
 phob curiad a oedd dan ei bron
Dyma’i llafur cariad hi
Pennill 3
Joseff ffyddlon ar ei braich
Yn ei flinder yn ei dal
Doedd dim gofal mewn un lle
Yn nhref Dafydd cyn y wawr
Yn nhywyllwch oer y nos
Pont
Yntau’n galw ar y nef
Yng ngoleuni’r lloer a’r sêr
Ond y baban yn ei chroth
Oedd Creawdwr mawr pob peth
Ef oedd awdur mawr ein ffydd
S’mudai fynydd ar ei air
Corws
Diweddglo
Ac i’r raslon forwyn Fair
Yn ei dagrau yn y gwair
Dyma’i llafur cariad hi
Nid oedd yno dawel nos
Yn nhref Dafydd cyn y wawr
Llafur Cariad
Labor of Love (Andrew Peterson)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© y gwreiddiol a’r cyfieithaid hwn 2005 New Spring (Gwein. / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y DU/Eire gan Song Solutions www.songsolutions.org)). Defnyddir trwy ganiatâd.
CCLI # 7275793
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint