logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mae calon Duw’n llawn gofid

Mae calon Duw’n llawn gofid
Mae t’wyllwch drwy y wlad.
Mae’i blant yn esgeuluso
Y gwaith wnaed gan y Mab.
Mae’r byd yn araf lithro nawr
At ddibyn colledigaeth fawr.
A ddaw ‘na neb i son am gariad Duw?

Rwy’n barod, rwy’n barod.
Wele fi, o anfon fi.
Af allan, af allan,
Gyda’r neges drosot Ti.
Er mod i’n wan ac ofnus,
Dy alwad ddaeth i’m clyw.
Atebaf, ‘Rwy’n barod
I ti f’anfon i, fy Nuw’.

Dduw, llanw fi ag angerdd
Dy fflamau oddi fry,
I garu byd anghenus
A gweithio drosot Ti.
Rho galon im sy’n trugarhau,
Rho weledigaeth glir o’m blaen,
Rho gariad fydd yn concro f’ofnau’i gyd.

O Dduw, rwyf yn hiraethu
Am weld gwawrio’r hyfryd ddydd
Pan na fydd mwy o ddioddef,
Pan ddaw y caeth yn rhydd.
Bryd hynny, er mor wan fy llef
Caf sefyll o flaen Brenin Nef
Yn haeddu dim, can’s braint i mi oedd dweud:

Rwy’n barod….

(Grym Mawl 2: 126)

Geoff Baker: The Father’s heart is breaking, Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones
Hawlfraint © 1996 Sovreign Music UK

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015