Mae gennyf ddigon yn y nef
ar gyfer f’eisiau i gyd;
oddi yno mae y tlawd a’r gwael
yn cael yn hael o hyd.
O law fy Nuw fe ddaw’n ddi-feth
fy mywyd i a’m nerth,
fy iechyd, synnwyr, a phob peth,
fy moddion oll, a’u gwerth.
O law fy Nuw y daw, mi wn,
bob cymorth heb nacáu:
holl drugareddau’r bywyd hwn
a’r gallu i’w mwynhau.
Y Duw a roes im nawdd o’r nen
mewn llawer bwlch a fu,
efe yw’r Duw a ddeil fy mhen
yn yr Iorddonen ddu.
Ymhob cyfyngder, digon Duw:
fy eisiau, ef a’i gwêl;
efe, i farw ac i fyw,
a fynnaf, doed a ddêl.
EBEN FARDD, 1802-63
(Caneuon Ffydd 168)
PowerPoint