Mae gennyf ddigon yn y nef ar gyfer f’eisiau i gyd; oddi yno mae y tlawd a’r gwael yn cael yn hael o hyd. O law fy Nuw fe ddaw’n ddi-feth fy mywyd i a’m nerth, fy iechyd, synnwyr, a phob peth, fy moddion oll, a’u gwerth. O law fy Nuw y daw, mi wn, […]
O fy Iesu bendigedig, unig gwmni f’enaid gwan, ymhob adfyd a thrallodion dal fy ysbryd llesg i’r lan; a thra’m teflir yma ac acw ar anwadal donnau’r byd cymorth rho i ddal fy ngafael ynot ti, sy’r un o hyd. Rhof fy nhroed y fan a fynnwyf ar sigledig bethau’r byd, ysgwyd mae y tir […]