[Philipiaid 3:12-14, Alaw: Mae nghariad i’n fenws]
Mae Iesu’n fy ngharu, mae’n dweud hynny’n glir;
Nid wyf yn ei haeddu, ond dyna yw’r gwir.
Pa ots am farn eraill? Pa ots beth yw’r si?
Dim ond barn fy Iesu sy’n cyfrif i mi.
Rwy’n werthfawr i Iesu; ei drysor wyf fi.
Mi dalodd bris uchel ar groes Calfari
I brynu fy mywyd a maddau fy mai;
Does dim byd all wneud iddo ‘ngharu fi’n llai.
Nid ydwyf yn berffaith yn awr, Duw a ŵyr,
Ond mae Iesu’n fy ngalw a’m meddiannu’n llwyr.
Diamod, dig’wilydd, diderfyn ei hyd –
Nid oes cariad tebyg i’w gael yn y byd.
Anghofiaf pob siom a phob drwg fu o’r blaen
A ‘mestyn yn daer at yr hyn sydd o ‘mlaen.
Cyflymaf at Iesu, fy nod ydyw Ef,
A byw yn ei gariad yw’r wobr yn y nef.
© Cass Meurig, Chwefror 2019
PowerPoint PDF MP3