Mae’n hyder yn ei enw Ef,
Ffynhonell iachawdwriaeth.
Gorffwys sydd yn enw Crist,
O ddechrau’r greadigaeth.
Nid ofnwn byth y drwg a ddaw,
Mae Un sydd yn ein caru;
Ein noddfa ddiogel ydyw Ef:
‘Ein gobaith sydd yn Iesu.’
Ef yw ein hamddiffynfa,
ni chawn ein hysgwyd;
Ef yw ein hamddiffynfa,
ni chawn ein hysgwyd.
Ymddiriedwn yn ein Duw;
Ymddiriedwn yn ein Duw.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Our confidence is in the Lord: Noel a Tricia Richards
© 1989 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 108)
PowerPoint