Mae’r nefoedd faith uwchben
yn datgan mawredd Duw,
mae’r haul a’r lloer a’r sêr i gyd
yn dweud mai rhyfedd yw.
Fe draetha dydd i ddydd
a nos i nos o hyd
ymhob rhyw faith, ymhob rhyw le,
am Grëwr doeth y byd.
Ond yn ei gyfraith lân
fe’i dengys Duw ei hun
yn Dduw mewn cymod drwy ei Fab
â gwael, golledig ddyn.
O boed fy ngeiriau oll
a’m calon, O fy Nuw,
yn gymeradwy ger dy fron
tra bwy’n y byd yn byw.
EVAN GRIFFITHS, 1795-1873
(Caneuon Ffydd 4)
PowerPoint PPt Sgrîn lydan