Mae’r nefoedd faith uwchben yn datgan mawredd Duw, mae’r haul a’r lloer a’r sêr i gyd yn dweud mai rhyfedd yw. Fe draetha dydd i ddydd a nos i nos o hyd ymhob rhyw faith, ymhob rhyw le, am Grëwr doeth y byd. Ond yn ei gyfraith lân fe’i dengys Duw ei hun yn Dduw […]
Yn dy waith y mae fy mywyd, yn dy waith y mae fy hedd, yn dy waith yr wyf am aros tra bwy’r ochor hyn i’r bedd; yn dy waith ar ôl mynd adref drwy gystuddiau rif y gwlith: moli’r Oen fu ar Galfaria – dyma waith na dderfydd byth. EVAN GRIFFITHS, 1795-1873 (Caneuon Ffydd 734)