Mi ganaf tra bo anadl
o fewn i’r ffroenau hyn
am gariad yn dioddef
ar ben Calfaria fryn,
am goron ddrain blethedig,
am hoelion garwa’u rhyw,
gannu f’enaid euog
fel eira gwynna’i liw.
Fe rwygwyd muriau cedyrn,
fe dorrwyd dorau pres
oedd rhyngom ni a’r bywyd,
mae’r bywyd heddiw’n nes;
palmantwyd yr holl lwybrau,
mae’r pyrth o led y pen,
o ddyfnder dinas distryw
i eitha’r nefoedd wen.
Fe bery trugareddau’r
cyfamod gwerthfawr drud
pan ddarffo’r greadigaeth
ddiderfyn oll i gyd;
ni bydd ond dechrau gweled
daioni mawr y ne’
pan gollo haul a lleuad
a’r holl blanedau’u lle.
WILLIAM WILLLAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 505)
PowerPoint