Mi wela’r ffordd yn awr
o lygredd mawr y byd
i fywiol oes y nefol hedd,
a’m gwedd yn lân i gyd:
y ffordd yw Crist, a’i ddawn,
a’r Iawn ar Galfarî;
mae drws agored drwyddo ef
i mewn i’r nef i ni.
Diolchaf am yr Oen
a’i boen i’m gwneud yn bur,
a’r iachawdwriaeth fawr ei bri
i’m codi o bob cur:
mae’r Iesu’n agos iawn
yn nyfnder llawn y lli;
mae drws agored drwyddo ef
i mewn i’r nef i ni.
‘Rwy’n gweld yn awr drwy ffydd
y nefol ddydd ar ddod
pryd y cyrhaeddaf Ganaan dir
i ganu’n glir ei glod.
Daw concwest yn y man
i’m rhan o Galfarî;
mae drws agored drwyddo ef
i mewn i’r nef i ni.
BEN DAVIES, 1864-1937
(Caneuon Ffydd 521)
PowerPoint