Mor dda ac mor hyfryd yw bod
Pobl yr Arglwydd yn gytûn.
Fe ddisgyn fel gwlith ar ein tir,
Neu olew gwerthfawr Duw
Sy’n llifo’n rhydd.
Mae mor dda, mor dda,
Pan ry’m gyda’n gilydd
Mewn hedd a harmoni.
Mae mor dda, mor dda,
Pan ry’m gyda’n gilydd ynddo ef.
Mor ddwfn yw afonydd ei ras
Pan ry’n ni’n un yn Iesu;
Yn un fel mae’r Tad yn y Mab –
Cael blasu’r bywyd sy’n dragwyddol fry.
(How good and how pleasant): Graham Kendrik cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1995 Make Way Music
(Grym Mawl 2: 52)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.