Mwy na’r awyr iach –
Rwyf d’angen di nawr;
Mwy na’r bwydydd i gyd
Ym meddwl y tlawd;
A mwy nag angen un gair
Am dafod i’w ddweud;
Ie, mwy nag angen un gân
Am lais i’w chreu.
Mwy na all gair esbonio’n glir,
Mwy na all cân arddangos yn wir;
Rwyf d’angen di yn fwy na’r rhai hyn,
Dad, rwyf d’angen di’n fwy.
Mwy na’r dynfa sydd rhwng
Pob magnet a dur;
Mwy nag awydd y bardd
Am odlau mor bur;
A mwy na’n hangen am wres
Yr haul yn yr haf;
A mwy na hoffter yr eryr
O’r gwyntoedd braf.
Mwy twym na fflamau o dân
Pan fo’r noson yn oer;
Mwy taer na thyfiant y coed
At olau’r haul;
Mwy gwyllt na thonnau’r môr
A grym eu llif;
Mwy na’th holl roddion hael,
Rwyf d’angen di.
(Grym Mawl 2: 93)
Brian Doerksen: More than oxygen, Cyfieithiad Awdurdodedig: Tudur Hallam
Hawlfraint © 1995 Mercy/Vineyard Publishing. Gweinyddir gan CopyCare.