Nesawn, nesawn mewn myfyrdodau pur
at fwrdd ein Harglwydd i gydgofio’i gur;
a rhoed y Brenin mawr ar hyn o bryd
ei ŵyneb hoff tra byddom yma ‘nghyd.
O am gael ffydd i gydfwynhau y wledd;
‘does un o’i bath i’w chael tu yma i’r bedd;
y cariad mawr a unodd Dduw a dyn
sydd yma nawr yn gwneud y saint yn un.
Diolch a wnawn am yr arwyddion hyn
i droi ein meddwl at yr Iesu gwyn;
coffawn yr aberth mawr a wnaeth efe,
coffawn y gwaed dywalltwyd yn ein lle.
O nerth i nerth yr awn mewn newydd hwyl
nes dod ynghyd at fwrdd y nefol ŵyl;
O ddedwydd saint, ymlonnwch yn gytûn:
os da yw hyn, beth fydd y nef ei hun?
EMRYS, 1813-73
(Caneuon Ffydd 661)
PowerPoint