Ni ddichon byd a’i holl deganau
fodloni fy serchiadau nawr,
a enillwyd ac ehangwyd
yn nydd nerth fy Iesu mawr;
ef, nid llai, a all eu llenwi
er mor ddiamgyffred yw,
O am syllu ar ei Berson,
fel y mae yn ddyn a Duw.
O na chawn i dreulio ‘nyddiau’n
fywyd o ddyrchafu ei waed,
llechu’n dawel dan ei gysgod
byw a marw wrth ei draed;
caru’r groes a phara i’w chodi
am mai croes fy Mhriod yw,
ymddifyrru yn ei Berson
a’i addoli byth yn Dduw.
ANN GRIFFITHS, 1776-1805
(Caneuon Ffydd 722)
PowerPoint