Ni wn paham y rhoddwyd gras
rhyfeddol Duw i mi;
Na pham y’m prynwyd iddo’i Hun
er maint fy meiau lu:
Ni wn i sut y rhoddodd Ef
achubol ffydd i’m rhan,
na sut, trwy gredu yn ei air,
daeth hedd i’m calon wan:
Ond fe wn i bwy y credais,
a’m hyder ynddo sydd
i gadw’r hyn a roed i’w law
nes daw’r tragwyddol ddydd.
Ni wn pa fodd daw’r Ysbryd Glân
i argyhoeddi’n llym,
A dwyn i’m calon ffydd trwy’r gair
gan ddangos Iesu im:
Ni wn pa beth sydd gan fy Nghrist
ynghadw ar fy rhan –
ai llwybrau blin neu hyfryd hin –
cyn gweld ei wyneb glân:
Ni wn pa ddydd y daw fy Iôr,
ni wn na phryd na ble;
Os âf trwy ddyffryn angau du,
neu’i gwrddyd yn y ne’:
I Know Not Why God’s Wondrous Grace: Stuart Townend & Daniel Whittle, Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd M Job
© yn y cyfieithiad hwn 1999 Thankyou Music/gweinyddir gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU & Ewrop, gweinyddir gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook, songs@integritymusic.com