Nid oes ond f’Arglwydd mawr ei ddawn,
A leinw f’enaid bach yn llawn,
Ni allwn ddal dim mwy pe cawn,
Mae Ef yn ddigon mawr:
A digon, digon, digon yw
Dy hyfryd bresenoldeb gwiw,
Yn angau ceidw hyn fi’n fyw,
A bodlon wyf yn awr.
A phe diffoddai’r heulwen fawr,
Pe syrthiai sêr y nen i lawr,
A phe diffygiai’r fore wawr,
A th’wyllwch yn eu lle –
Cawn drigo mewn sancteiddiol dir,
Yn llewyrch Haul Cyfiawnder pur,
Tragwyddol faith ddïwrnod clir,
O fewn i furiau’r ne’.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 353)
PowerPoint