O canwn ganig Bethlehem
Am fugeiliaid wylient draw,
Ac am y newydd gawsant hwy
Gan engyl, er eu braw:
Y golau gynt dros Fethlehem
Lanwo’n hollfyd nawr;
Fe gân yr engyl lu hyd byth
Am eni Iesu mawr.
O canwn ganig Nasareth
Am lawen ddyddiau mad,
Am bersawr blodau rif y gwlith
Ac am ddi-bechod Fab:
Gall blodau hardd tref Nasareth
Ym mhob rhyw galon fyw;
A gwasgar wna pob awel gref
Enwog enw annwyl Duw.
O canwn gân Galilea fwyn
Am lyn a choed a thwyn,
Am ’r Hwn a gerddodd ar y môr
A gostegu’i donnau chwyrn:
Fel dyfroedd gwyllt Galilea gynt,
Daw dyddiau du, llawn braw,
Ond pan glywo ffydd lais mwyn yr Iôr
I’r enaid heddwch ddaw.
O canwn ganig Calfari -,
Ei siom, y mawl a’r bri;
Am ’r Un fu farw ar y pren
Gan ddwyn ein beiau lu:
Cyfododd Crist o’r bedd yn fyw –
Llawenydd mawr y sydd,
Gall Crist ein Iôr, gwir Fab y Nef,
Ein hachub oll drwy ffydd.
O canwn ganig Bethlehem
O sing a song of Bethlehem (Louis F Benson)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© Parth Cyhoeddus
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint