logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Cenwch fawl i’r Arglwydd

O cenwch fawl i’r Arglwydd,
y ddaear fawr i gyd,
ac am ei iachawdwriaeth
moliennwch ef o hyd;
mynegwch ei ogoniant,
tra dyrchafedig yw;
mae’n ben goruwch y duwiau,
mae’n Arglwydd dynol-ryw.

Rhowch iddo aberth moliant,
ymgrymwch ger ei fron;
yn brydferth mewn sancteiddrwydd
moliennwch ef yn llon;
ac ofned pob creadur
yr hwn sy’n dal y byd;
ymlawenhaed y nefoedd
a’r ddaear ynddo ‘nghyd.

ROBERT JONES, 1807-96

(Caneuon Ffydd 24)

PowerPoint
PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • January 9, 2015