O cenwch fawl i’r Arglwydd, y ddaear fawr i gyd, ac am ei iachawdwriaeth moliennwch ef o hyd; mynegwch ei ogoniant, tra dyrchafedig yw; mae’n ben goruwch y duwiau, mae’n Arglwydd dynol-ryw. Rhowch iddo aberth moliant, ymgrymwch ger ei fron; yn brydferth mewn sancteiddrwydd moliennwch ef yn llon; ac ofned pob creadur yr hwn sy’n […]