O deuwch, ffyddloniaid,
oll dan orfoleddu,
O deuwch, O deuwch i Fethlem dref:
wele, fe anwyd
Brenin yr angylion:
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn Grist o’r nef!
O cenwch, angylion,
cenwch, gorfoleddwch,
O cenwch, chwi holl ddinasyddion y nef
cenwch “Gogoniant
i Dduw yn y goruchaf!”
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn Grist o’r nef!
O henffych, ein Ceidwad,
henffych well it heddiw;
gogoniant i’th enw drwy’r ddaear a’r nef.
Gair y tragwyddol
yma’n ddyn ymddengys:
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn,
O deuwch ac addolwn Grist o’r nef!
Priodolir i J. F. WADE, 1711-86 (O Come all ye faithful), cyf.ANAD.
(Caneuon Ffydd 463)
PowerPoint