O! Dewch yn rhydd,
Gadewch yr ŵyn a’r defaid,
O! dewch yn awr
O’r borfa lân i lawr.
Na fyddwch brudd,
Ond llawenhewch, fugeiliaid
O! brysiwch ato ‘nghyd
Ein Iôr, Ein Iôr
Ein Iôr, iachawdwr mawr y byd.
Cewch weld yn awr,
Yng nghornel yr adeilad,
Mewn preseb coed
Yn faban diwrnod oed,
Eich Ceidwad mawr.
Gall hwn, trwy ras a chariad,
Iacháu pob loes a chlwy.
Hwn fydd, hwn fydd
Eich bugail da byth mwy.
Chwi doethion dri,
Mae seren gain yn gwenu:
Prydferthach yw
Na gemau o bob rhyw,
Dilynwch hi;
Dewch at y baban Iesu –
Rhyfeddod nef a llawr.
O! rhowch, O! rhowch
Anrhegion iddo’n awr.
Hen Garol Ffrengig, Quittez pasteurs, cyf. J. T. Jones, Porthmadog © Dafydd F. Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Llyfr Gweddi a Mawl i Ysgolion, Llyfrau’r Dryw, 1958)
PowerPoint