O! Enw annwyl iawn,
Anwylaf un yn bod;
Ni chlywodd engyl nef
Gyffelyb iddo ‘rioed:
Rhof arno ‘mhwys,
doed dydd, doed nos,
Fe’m deil i’r lan dan bob rhyw groes.
Cryf yw ei ddehau law,
Anfeidrol yw ei rym,
Ac nid oes byth a saif
O flaen ei ŵyneb ddim:
Rhois iddo f’hun, f’amddiffyn wna
Rhag dyfais uffern faith a’i phla.
William Williams, Pantycelyn
PowerPoint