O mor ddymunol yw cael cwrdd
â’m hoff Anwylyd wrth ei fwrdd,
ymlonni yn ei gariad llawn
a thawel orffwys ar yr Iawn.
Mae’r fath hawddgarwch yn ei bryd,
gwledd felys yw, na ŵyr y byd:
fy nefoedd yw bod ger ei fron
yn siriol wedd ei ŵyneb llon.
Ymrwymiad adnewyddol yw
i rodio a bodloni Duw,
a phrawf o gariad Brenin nef,
ei ddoniau a’i ffyddlondeb ef.
Y cof o’i angau ef a’i ras
farweiddia’n llwyr fy mhechod cas;
myfyrio loes Iachawdwr byd
a wywa’r llygredd oll i gyd.
ERYRON GWYLLT WALIA, 1803-70
(Caneuon Ffydd 640)
PowerPoint