O rhoddwn fawl i’n Harglwydd Dduw,
ffynnon tragwyddol gariad yw:
ei drugareddau mawrion ef
a bery byth fel dyddiau’r nef.
O mor rhyfeddol yw ei waith
dros holl derfynau’r ddaear faith;
pwy byth all draethu’n llawn ei glod,
anfeidrol, annherfynol Fod?
Dy heddwch gad i mi fwynhau,
heddwch dy etholedig rai;
a phan y’u rhoddi hwy yn rhydd
fy iachawdwriaeth innau fydd.
Gad imi dreulio f’einioes wiw
mewn undeb gyda’th blant, O Dduw;
ac yn y diwedd gad im ddod
i’th felys foli uwch y rhod.
1, 2 CASGLIAD TATE a BRADY 3, 4 ANAD. cyf. ANAD.
(Caneuon Ffydd 19)