O! sancteiddia f’enaid Arglwydd,
ymhob nwyd ac ymhob dawn;
rho egwyddor bur y nefoedd
yn fy ysbryd llesg yn llawn:
n’ad im grwydro
draw nac yma fyth o’m lle.
Ti dy hunan all fy nghadw
rhag im wyro ar y dde,
rhedeg eilwaith ar yr aswy,
methu cadw llwybrau’r ne’:
O tosturia,
mewn anialwch rwyf yn byw.
Planna’r egwyddorion hynny
yn fy enaid bob yr un,
ag sydd megis peraroglau
yn dy natur di dy hun;
blodau hyfryd
fo’n disgleirio daer a nef.
Fel na chaffo’r pechod atgas,
mwg a tharth y pydew mawr,
fyth fy nallu ar y llwybyr,
chwaith na’m taflu fyth i lawr:
gwna i mi gerdded
union ffordd wrth olau dydd.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 697; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 514)
PowerPoint