O! Tyrd i ben, ddedwyddaf ddydd,
A caffo f’ysbryd fynd yn rhydd;
O Grist rho braw ar frys i mi
O ddwyfol haeddiant Calfari.
Er mwyn im rodio’n ddinacâd,
Dan awel hyfryd rin y gwaed;
A threulio f’amser ddydd a nos,
Mewn myfyr am dy angau loes.
O! na boed gras o fewn y nef
Na chaffwyf ran ohono ef;
A phâr na byddo gennyf flas
Ond ar dy gariad pur a’th ras,
Fy unig gysur yn y byd
Fo edrych ar dy ŵyneb-pryd;
Ac aed fy amser heibio’n llawn
Wrth ganu i’th enw fore a nawn.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 188)
PowerPoint