Oleuni nefol tyrd i lawr
Ar doriad gwawr yn dirion,
Rhowch chwithau glust, fugeiliaid glân,
I hyfryd gân angylion.
Fe aned Mab ym Methlehem
Ac iechydwriaeth yn ei drem:
At breseb Iesu brysiwn,
Oll ger ei fron ymgrymwn.
O ganol hedd y Wynfa gain
I blith y drain a’r drysni
Mewn pryd y daeth Mab Duw ei hun
I achub dyn o’r gyni.
Daeth aer y nef mewn gwisg o gnawd,
Gynt er ein mwyn, yn faban tlawd:
Am hynny byth heb flino,
Cyd-ganwn – “Diolch Iddo”.
J. T. Jones, Porthmadog © Dafydd F.Jones. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Mawl yr Ifanc, 1968)
PowerPoint