Pe meddwn aur Periw
A pherlau’r India bell,
Mae gronyn bach o ras fy Nuw
Yn drysor canmil gwell.
Pob pleser is y rhod
A dderfydd maes o law;
Ar bleser uwch y mae fy nod,
Yn nhir y bywyd draw.
Dymunwn ado’n lân
Holl wag deganau’r llawr,
A phenderfynu fynd ymlaen
Ar ôl fy Mhrynwr mawr.
Pe cawn y ddaear gron,
A’i holl bleserau hi,
Mae heddwch Duw o dan fy mron
Yn ganmil gwell i mi.
William Lewis, Llangloffan (? – 1794); pennill 4 – anhysbys
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 10)
PowerPoint