Pechadur wyf, da gŵyr fy Nuw,
Llawn o archollion o bob rhyw,
Yn byw mewn eisiau gwaed y groes
Bob munud awr o’r dydd a’r nos!
Yng nganol cyfyngderau lu,
A myrddiwn o ofidiau du,
Gad imi roddi pwys fy mhen
I orffwys ar dy fynwes wen.
Gad imi dreulio ‘nyddiau i gyd
I edrych ar dy ŵyneb-pryd;
Difyrru f’oes o awr i awr
I garu fy Eiriolwr mawr.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 154)
PowerPoint