Pechadur wyf, O Arglwydd,
sy’n curo wrth dy ddôr;
erioed mae dy drugaredd
ddiddiwedd imi’n stôr:
er iti faddau beiau
rifedi’r tywod mân
gwn fod dy hen drugaredd
lawn cymaint ag o’r blaen.
Dy hen addewid rasol
a gadwodd rif y gwlith
o ddynion wedi eu colli
a gân amdani byth;
er cael eu mynych glwyfo
gan bechod is y nen
iacheir eu clwyfau mawrion
â dail y bywiol bren.
Gwasgara’r tew gymylau
oddi yma i dŷ fy Nhad,
datguddia imi beunydd
yr iachawdwriaeth rad,
a dywed air dy hunan
wrth f’enaid clwyfus, trist
dy fod yn maddau ‘meiau
yn haeddiant Iesu Grist.
MORGAN RHYS, 1716-79
(Caneuon Ffydd 191)
PowerPoint