Pererin wyf mewn anial dir
yn crwydro yma a thraw,
ac yn rhyw ddisgwyl bob yr awr
fod tŷ fy Nhad gerllaw.
Ac mi debygaf clywaf sŵn
nefolaidd rai o’m blaen,
wedi gorchfygu a mynd drwy
dymhestloedd dŵr a thân.
Tyrd, Ysbryd Sanctaidd, ledia’r ffordd,
bydd imi’n niwl a thân;
ni cherdda’ i’n gywir hanner cam
oni byddi di o’m blaen.
Mi wyraf weithiau ar y dde
ac ar yr aswy law;
am hynny arwain, gam a cham
fi i’r baradwys draw.
Mae hiraeth arnaf am y wlad
lle mae torfeydd di-ri’
yn canu’r anthem ddyddiau’u hoes
am angau Calfarî.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 682; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 64)
PowerPoint youtube