Rho dy fendith, Ysbryd Glân,
yma’r awron;
dyro di y bedydd tân
yn ein calon;
llanw ein heneidiau ni
â sancteiddrwydd;
gwna ni’n eiddo llwyr i ti,
dyner Arglwydd.
Cadw’n henaid i fwynhau
gwenau’r Iesu;
cadw’n calon i barhau
fyth i’w garu;
tywys ni yng ngolau’r nef
i’r gwirionedd;
dyro in ei feddwl ef
a’i dangnefedd.
BEN DAVIES, 1864-1937
(Caneuon Ffydd 33)