Rho imi galon lân O Dad,
i foli d’enw di
calon yn teimlo rhin y gwaed
dywalltwyd drosof fi.
Calon fo wedi’i meddu’n glau
gan Iesu iddo’i hun
calon fo’n demel i barhau
i’r bythol Dri yn Un.
Calon ar ddelw’r hwn a’i gwnaeth
yn llawn o’i gariad ef
yr hon yn Nuw all lawenhau
yn un a theulu’r nef.
Mwy ni fodlona ‘nghalon i
nes imi weld dy wedd
ymgadw yn dy gariad di
a gofwys yn dy hedd.
CHARLES WESLEY, 1707-88 (O for a heart to praise my God) cyf. ROBERT WILLIAMS, 1804-55 ac eraill
(Caneuon Ffydd 676)
PowerPoint
Datganiad Hawlfraint
Mae gobaith.org yn darparu'r ffeiliau PowerPoint hyn o gyfieithiadau o ganeuon mawl Saesneg fel gwasanaeth rhad ac am ddim, ond amddiffynnir yr holl ganeuon gan ddeddf hawlfraint. Gall deiliaid Trwydded Hawlfraint Eglwysi lawrlwytho ac atgynhyrchu geiriau'r caneuon hyn yn unol ag amodau eu trwydded, a dylent gynnwys pob cân a ddefnyddir yn eu hadroddiad defnydd o ganeuon blynyddol. Os nad oes trwydded hawlfraint gennych bydd rhaid derbyn caniatâd gan berchennog pob cân y dymunwch ei lawrlwytho a/neu ei hatgynhyrchu. Am fanylion pellach am y Drwydded Hawlfraint Eglwysi ewch i www.ccli.com neu ffoniwch 01323 436103.