Rho imi, nefol Dad,
yr Ysbryd Glân yn awr
wrth geisio cofio’r gwerth a gaed
yng ngwaed ein Iesu mawr.
Gad imi weld y wawr
a dorrai ar ei loes
a’r heddwch a gofleidiai’r byd
yn angau drud y groes.
Ei gwpan ef, mor llawn
a chwerw ar ei fin,
a droes, yn rhin ei gariad mawr,
i mi yn awr yn win.
J. TYWI JONES, 1870-1948
(Caneuon Ffydd 629; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 05)
PowerPoint