Arglwydd Iesu, gad im deimlo rhin anturiaeth fawr y groes; yr ufudd-dod perffaith hwnnw wrth ŵynebu dyfnaf loes; yr arwriaeth hardd nad ofnai warthrudd a dichellion byd; O Waredwr ieuanc, gwrol, llwyr feddianna di fy mryd. N’ad im geisio gennyt, Arglwydd, fywyd llonydd a di-graith; n’ad im ofyn am esmwythfyd ar ddirwystyr, dawel daith; dyro’n […]
Rho imi, nefol Dad, yr Ysbryd Glân yn awr wrth geisio cofio’r gwerth a gaed yng ngwaed ein Iesu mawr. Gad imi weld y wawr a dorrai ar ei loes a’r heddwch a gofleidiai’r byd yn angau drud y groes. Ei gwpan ef, mor llawn a chwerw ar ei fin, a droes, yn rhin ei […]
‘Rwy’n troi fy ŵyneb, Iesu da, o bobman atat ti, ym merw blin y byd a’i bla dy wedd sy’n hedd i mi; ni chefais, naddo, mewn un man un balm i’m calon drist nac enw swyna f’enaid gwan ond enw Iesu Grist. ‘Rwyt ti i mi yn gadarn dŵr ym merw mawr y byd; […]