‘Roedd yn y wlad honno fugeiliaid yn gwylio
eu praidd rhag eu llarpio’r un lle;
daeth angel yr Arglwydd mewn didwyll fodd dedwydd
i draethu iddynt newydd o’r ne’,
gan hyddysg gyhoeddi fod Crist wedi’i eni,
mawr ydyw daioni Duw Iôr;
bugeiliaid pan aethon’ i Fethlem dre’ dirion
hwy gawson’ Un cyfion mewn côr:
Mab Duw tragwyddoldeb yn gorwedd mewn preseb
Tri’n undeb mewn purdeb heb ball,
cydganwn ogoniant yn felys ei foliant,
fe’n tynnodd o feddiant y fall.
Nac ofnwch, blant Seion, fe welir duwiolion
a’u gynau’n dra gwynion i gyd,
yn lân wedi’u cannu yng ngwerthfawr waed Iesu
er maint fu i’w baeddu’n y byd;
yn rhyddion o’u cystudd yn canmol eu Harglwydd
yn cario hardd balmwydd bob un
mewn teyrnas uwch daear, fel haul yn dra hawddgar,
heb garchar na galar na gwŷn:
a’r bachgen bach Iesu fydd testun y canu,
fu’n gwaedu i’n prynu ar y pren;
yn ffyddlon gantorion, o nifer plant Seion,
bôm ninnau’r un moddion, Amen.
SIÔN EBRILL, 1745-1836
(Caneuon Ffydd 473)
PowerPoint