‘Rwyf yn credu yn y Tad tragwyddol,
Rwyf yn credu’n Iesu ei Fab,
Rwyf yn credu hefyd yn yr Ysbryd –
Tri yn Un yn ei gariad rhad.
Credu rwyf iddo’i eni o forwyn,
Ei ladd ar groes a’i gladdu yn y bedd;
Fe aeth i lawr i uffern yn fy lle i,
Ond fe ddaeth yn ôl yn fyw –
codi wnaeth Mab Duw!
O Arglwydd,
mae ein byd mewn dryswch,
Mae pawb yn mynd
ar hyd ei ffordd ei hun;
Ceisio bod fel duwiau
ddaeth a th’wyllwch
Ond does gen i ddim c’wilydd
dweud mod i’n credu’r gwir.
Credu rwyf iddo esgyn fry i’r nefoedd;
Ar ddeheulaw Duw mae ’nawr
A chredu rwyf y daw yn ôl o’r nefoedd
I farnu pob un enaid
drwy holl wledydd daear lawr.
Cyfieithiad Awdurdodedig Arfon Jones
I believe in God the Father (Apostle’s Creed), Wayne Drain
© 1996 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/ Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 55)
PowerPoint