Pennill 1
Gosodwyd hwn mewn preseb
Mab Duw ddaeth atom ni
Yr un i’w enwi yn Emaniwel
At ferch a oedd yn wyryf
Y daeth addewid clir
Yr un i’w enwi yn Emaniwel
Rhag-gorws
Dy enw yw’r uchaf
Dy enw yw’r mwyaf
Dy enw sydd uwchlaw pob un
Pob gorsedd, pob arglwydd
Pob safle, pob pŵer
Dy enw sydd uwchlaw pob un
Corws 1
Cân yr engyl yw – Sanctaidd
Cana’r cread oll – Sanctaidd
Dyrchafedig wyt – Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd
Pennill 2
I ddinas Dafydd Frenin
Daeth ein Gwaredwr ni
Yr un i’w enwi yn Emaniwel
Bu sanctaidd lu y nefoedd
Yn canu am ei ddod
Yr un i’w enwi yn Emaniwel
Meseia Duw sydd gyda ni yn awr
Corws 1
Corws 2
Cân Dy bobl yw – Sanctaidd
Iôr Brenhinoedd wyt – Sanctaidd
Byddi Di am byth – (yn) Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd
Rhag-gorws (X2)
Corws 1
Corws 2
Tag
Byddi Di am byth – yn Sanctaidd
(Yn) Sanctaidd byth bythoedd
Sanctaidd byth bythoedd (Nadolig)
Holy Forever (Christmas) (Brian Johnson, Chris Tomlin, Jason Ingram, Jenn Johnson, Phil Wickham)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2024 Phil Wickham Music (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland / Simply Global Songs (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein yn y DU/Eire. gan Song Solutions www.songsolutions.org))
Capitol CMG Paragon /CDavs Music / S. D. G. Publishing / Songs For TIM (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Be Essential Songs / My Magnolia Music (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Bethel Music Publishing / Brian and Jenn Publishing (Gwein. gan Song Solutions)
CCLI #7275199
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint