Ti biau’r goron, atgyfodedig Grist;
Cyflawn fuddugoliaeth gaed ar angau trist;
Angel ddaeth i sefyll lle gorweddaist Ti,
‘Na, nid yw Ef yma!’ oedd ei lawen gri.
Ti biau’r goron, atgyfodedig Grist;
Cyflawn fuddugoliaeth gaed ar angau trist.
Crist ddaw i’n cyfarch heddiw’n fyw o’r bedd;
Gwasgar ofn a thristwch, rhydd i ni ei hedd;
Boed i’r Eglwys ganu mewn gorfoledd mawr,
Collodd angau’i golyn — byw yw’n Harglwydd nawr!
Ni fedrwn D’amau Di, Waredwr byd;
Nid oes bywyd hebot: Cymorth rho mewn pryd;
Gwna ni yn goncwerwyr trwy dy gariad cry’;
Dwg ni drwy’r anialwch draw i’n cartref fry.
E L Budry: Thine be the glory, Cyfieithwyd: Dafydd M Job
PowerPoint