Crist a orchfygodd Fore’r trydydd dydd, Cododd ein Gwaredwr, Daeth o’i rwymau’n rhydd. Gwisgoedd ei ogoniant Sydd yn ddisglair iawn, Wedi gweld ei harddwch Ninnau lawenhawn. Crist a orchfygodd Fore’r trydydd dydd, Cododd ein Gwaredwr, Daeth o’i rwymau’n rhydd. Daw ef i’n cyfarch Gyda thoriad gwawr, Gwasgar ein hamheuon, Lladd ein hofnau mawr. Cryfach fyddwn […]
Ti biau’r goron, atgyfodedig Grist; Cyflawn fuddugoliaeth gaed ar angau trist; Angel ddaeth i sefyll lle gorweddaist Ti, ‘Na, nid yw Ef yma!’ oedd ei lawen gri. Ti biau’r goron, atgyfodedig Grist; Cyflawn fuddugoliaeth gaed ar angau trist. Crist ddaw i’n cyfarch heddiw’n fyw o’r bedd; Gwasgar ofn a thristwch, rhydd i ni ei hedd; […]