Ti Greawdwr mawr y nefoedd,
mor ardderchog dy weithredoedd;
ti yw Brenin creadigaeth,
ti yw awdur iachawdwriaeth.
Ti, O Dduw, sydd yn teyrnasu
pan fo seiliau’r byd yn crynu;
ti fu farw dan yr hoelion
er mwyn achub dy elynion.
Ti, O Dduw, sy’n pwyso’r bryniau
a’r mynyddoedd mewn cloriannau;
ti sy’n pwyso’r wan ochenaid
ac yn mesur ingoedd enaid.
Ti sy’n rhifo’r sêr fyrddiynau
gan eu galw wrth eu henwau;
ti sy’n gwella’r fron friwedig
ac yn rhwymo’r galon ysig.
Ti sy’n gwisgo d’orsedd olau
mewn tywyllwch a chymylau;
yn dy gariad ti sy’n anfon
dy faddeuant llwyr i’m calon.
BEN DAVIES, 1864-1937
(Caneuon Ffydd 111)
PowerPoint