Ti, O Dduw yw’r wawr sy’n torri
Ar eneidiau plant y ffydd,
Mae dy ddyfod mewn maddeuant
Megis hyfryd olau’r dydd;
Cilia cysgod pob hudoliaeth
O flaen haul datguddiad clir,
Nid oes bellach un gorfoledd
Ond gorfoledd glân y gwir.
Ti, O Dduw yw’r cryf dihalog,
Ti yw’r grym sy’n troi’n llesâd,
Daw dy Ysbryd Glân i’n hachub
Rhag y gwendid sy’n sarhad.
Hollalluog yw dy enw,
Pwy sydd gadarn ond Tydi?
Tyn ni atat o’n heiddilwch
Bydd yn graig i’n hyder ni.
Ti, O Dduw sy’n llanw’r gofod
Â’th gyflawnder mawr dy hun,
Anfon atat dy rasusau
I ddileu gwacterau dyn;
Dy ogoniant yw ein llawnder,
Dy drugaredd, digon yw,
Arglwydd mawr y greadigaeth
Ti dy hyn yw ystyr byw.
W. Rhys Nicholas © Richard E. Huws, Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
PowerPoint