Tydi, a ddaethost gynt o’r nef
i ennyn fflam angerddol gref,
O cynnau dân dy gariad di
ar allor wael fy nghalon i.
Boed yno er gogoniant Duw,
yn fflam anniffoddadwy, fyw,
yn dychwel i’w ffynhonnell fyth
mewn cariad pur a mawl di-lyth
O Iesu cadarnha fy nod
i hir lafurio er dy glod,
i wylio dros y sanctaidd dân
a deffro’r doniau nefol, glân.
Yn ufudd mwy, o ddydd i ddydd
offrymaf actau serch a ffydd
nes dyfod angau, d’olaf ddawn,
a gwneud fy aberth tlawd yn llawn.
CHARLES WESLEY, 1707-88 cyf. D. R. GRIFFITHS, 1915-90 © Petra Griffiths. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd: 690)
PowerPoint