Tyred, Iesu, i’r anialwch,
at bechadur gwael ei lun,
ganwaith ddrysodd mewn rhyw rwydau –
rhwydau weithiodd ef ei hun;
llosg fieri sydd o’m cwmpas,
dod fi i sefyll ar fy nhraed,
moes dy law, ac arwain drosodd
f’enaid gwan i dir ei wlad.
Manna nefol sy arna’i eisiau,
dŵr rhedegog, gloyw, byw
sydd yn tarddu o dan riniog
temel sanctaidd, bur fy Nuw;
golchi’r aflan, cannu’r duaf,
gwneud yr euog brwnt yn lân;
ti gei’r clod ryw fyrdd o oesoedd
wedi i’r ddaear fynd yn dân.
Ar dy allu ‘rwy’n ymddiried:
mi anturiaf, doed a ddêl,
dreiddio drwy’r afonydd dyfnion,
mae dy eiriau oll dan sêl;
fyth ni fetha a gredo ynot,
ni bu un erioed yn ôl;
mi â ‘mlaen, a doed a ddelo,
graig a thyle, ar dy ôl.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 730)
PowerPoint