Wedi dweud Amen
A’r gân yn dod i ben,
Dof o’th flaen heb ddim,
Gan ddymuno rhoi,
Rhywbeth gwell na sioe,
Rhodd sy’n costio im.
Rhof iti fwy na fy nghân,
Ni all cân ynddi’ hun
Fyth fod yn ddigon i Ti.
Gweli yn ddwfwn o’m mewn,
Dan y wyneb mae’r gwir,
Gweli fy nghalon yn glir.
Dof at y Gair sydd yn fwy na’r geiriau
A rhoi’r cyfan i Ti,
Canaf i Ti, Iesu;
O! maddau im am anghofio weithiau
Fod y gân hon i Ti,
Canaf i Ti, Iesu.
Brenin yr holl fyd,
Nid yw ngeiriau’i gyd
Yn cyfleu dy werth.
Er mor dlawd wyf fi,
Rwyf am roi i ti rodd fy nghalon i.
Rhof iti fwy na fy nghân,
Ni all cân ynddi’ hun
Fyth fod yn ddigon i Ti.
Gweli yn ddwfwn o’m mewn,
Dan y wyneb mae’r gwir,
Gweli fy nghalon yn glir.
Dof at y Gair sydd yn fwy na’r geiriau
A rhoi’r cyfan i Ti,
Canaf i Ti, Iesu;
O! maddau im am anghofio weithiau
Fod y gân hon i Ti,
Canaf i Ti, Iesu.
Cyfieithiad Awdurdodedig: Casi Jones, When the music fades (Heart of worship): Matt Redman
Hawlfraint © 1997 ac yn y cyfieithiad hwn Thankyou Music/
Gwein. gan worshiptogether.com songs ac eithrio DU ac Ewrop, gwein. gan Kingsway Music
tym@kingsway.co.uk Defnyddir trwy ganiatâd
(Grym Mawl 2: 153)
PowerPoint youtube