Wel dyma hyfryd fan
i droi at Dduw,
lle gall credadun gwan
gael nerth i fyw:
fry at dy orsedd di
‘rŷm yn dyrchafu’n cri;
O edrych arnom ni,
a’n gweddi clyw!
Ddiddanydd Eglwys Dduw,
ti Ysbryd Glân,
sy’n llanw’r galon friw
â mawl a chân,
O disgyn yma nawr
yn nerth dy allu mawr;
o’r nefoedd tyrd i lawr
mewn dwyfol dân.
Iachawdwr mawr y byd,
bywha dy waith;
a galw’r saint ynghyd
drwy’r ddaear faith;
mae’n calon yn llesgáu,
O tyred i’n bywhau,
i’n harwain a’n cryfhau
ar hyd y daith.
FRANCES J. VAN ALSTYNE, 1820-1915, EFEL. WATCYN WYN, 1844-1905
(Caneuon Ffydd 36)