Ŵr clwyfedig, Oen fy Nuw
Gwrthodedig Un;
Holl bechod dyn a llid y Tad
Ar ysgwydd Iesu gwyn.
Heb ‘run gair fe aeth i’r prawf
Drwy y gwawd a’r loes
Ildio’n llwyr i lwybr Duw
Dan goron ddrain a chroes.
Croes fy Iesu sy’n iachawdwriaeth
Llifodd cariad ataf fi
Cân fy enaid nawr, haleliwia
Clod a mawl i’th enw di.
Cennad nefoedd, Mab y Tad
Prynwr sy’n rhyddhau
Gwnaeth gymod llwyr dros euog un
Dan hoelion llym fy mai.
D’oes dim dyled mwy, cafwyd taliad llawn
Yn y gwerthfawr waed ddaeth o ystlys Crist
Dim condemniad mwy, rwyf yn rhydd i fyw
Drwy fy Iesu gwiw, concrwr pechod yw.
Does dim maen ar geg y bedd
O’r graig daeth Craig yn fyw
Haleliwia, molwn Ef,
Gorchfygwr angau yw!
Man of Sorrows: Matt Crocker & Brooke Liggertwood, Cyfieithiad Awdurdodedig: Meirion Morris
© 2012 Hillsong Music Publishing (APRA) PO Box 1195 Castle Hill NSW 1765 Australia PH +61 2 8853 5353 FAX +61 2 8846 4625 E-mail: publishing@hillsong.com