Wrth edrych, Iesu, ar dy groes,
a meddwl dyfnder d’angau loes,
pryd hyn ‘rwyf yn dibrisio’r byd
a’r holl ogoniant sy ynddo i gyd.
N’ad im ymddiried tra bwyf byw
ond yn dy angau di, fy Nuw;
dy boenau di a’th farwol glwy’
gaiff fod yn ymffrost imi mwy.
Dyma lle’r ydoedd ar brynhawn
rasusau yn disgleirio’n llawn:
mil o rinweddau yn gytûn
yn prynu’r gwrthgiliedig ddyn.
Gwelwch yn nwylo’n Prynwr pur
Ac yn ei draed ef hoelion dur;
Edrychwch ar y wayw-ffon
Yn torri’r archoll dan ei fron.*
Poen a llawenydd dan y loes,
tristwch a chariad ar y groes;
ble bu rhinweddau fel y rhain
erioed o’r blaen dan goron ddrain?
Myfi aberthaf er dy glod
bob eilun sydd o dan y rhod,
ac wrth fyfyrio ar dy waed
fe gwymp pob delw dan fy nhraed.
ISAAC WATTS, 1674-1748, When I survey the wondrous cross, efel. WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
*(Pennill 4 yn Grym Mawl 1 a 2 yn unig)
(Caneuon Ffydd 495, Grym Mawl 2: 150; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 186)
PowerPointPennill 4 dewisol:
PowerPoint